Ein Tai
Mae gennym ni dai i'w gosod ledled Powys a Cheredigion. Rhestrir lleoliadau'r tai sydd gennym ar hyn o bryd isod, gydag ychydig o luniau o enghreifftiau. Mae llyfryn lliw ar gael gyda manylion ein tai ar y dudalen Lawrlwytho.
Mae ein tai yn cynnwys ystod o fathau, gan gynnwys fflatiau 1 neu 2 ystafell wely, byngalos, a thai gyda 2, 3, neu 4 ystafell wely.
Mewn rhai ardaloedd, megis pentrefi, darparwyd tai fforddiadwy sy'n destun i gyfyngiadau cynllunio, hynny yw Cytundebau Adran 106. Dan yr amgylchiadau hyn, dim ond i bobl gyda chysylltiad â'r ardal y medrwn gynnig y tai. Mae llyfryn lliw ar gael gyda manylion ein Polisi Gosod ar y dudalen Lawrlwytho.
Tai â Chymorth
Mae gennym ni hefyd dai â chymorth trwy gydol Powys a Cheredigion. Yn y tai hyn, mae pobl yn gallu cael y cymorth sydd ei angen arnynt: gall hyn fod o gyn lleied ag ychydig o oriau'r diwrnod hyd at gefnogaeth 24 awr gan staff.
Bydd angen cymorth am gyfnod amhenodol ar rai tenantiaid, ac am gyfnod byr ar eraill. Gall y rhesymau amrywio hefyd. Darperir y cymorth gan asiantaethau arbenigol. Mae dolenni i wefannau rhai o'r asiantaethau hyn ar y dudalen Dolenni Defnyddiol. Os ydych eisiau mwy o wybodaeth am Dai â Chymorth, cysylltwch a'n Hadran Gwasanaethau Cymunedol ar 01686 620505. Fel arall, gellir gofyn am wybodaeth ar-lein o'r dudalen Cysylltwch â ni.
|